Confensiwn Cymru Gyfan
Amser am gam nesaf i Gymru? Ydych chi'n credu:
• Bod y pwerau presennol sydd ar gael i'r Cynulliad Cenedlaethol yn ddigonol?
• Ei bod yn bryd i Gymru gymryd y cam nesaf tuag at gael pwerau deddfu llawn?
I ateb y cwestiynau yma sefydlwyd Confensiwn Cymru Gyfan i roi cyfle i ni leisio ein barn am ddyfodol Cymru. Caiff cyfreithiau eu llunio yn ein enw felly mae’n bwysig i’r deddfwyr cael clywed ein safbwyntiau a ein barn.
Sut dechreuodd e?
Mae sefydlu Confensiwn Cymru Gyfan yn ymrwymiad a wnaed ym mis Mehefin 2007 yn rhaglen lywodraethu’r glymblaid rhwng y Blaid Lafur a Phlaid Cymru. Mae'r rhaglen lywodraethu wedi'i hamlinellu yn y ddogfen 'Cymru'n Un' sy'n disgrifio beth y mae'r Llywodraeth yn bwriadu ei wneud dros y pedair blynedd nesaf.
Yn y ddogfen 'Cymru’n Un', mae’r ddwy blaid yn ymrwymo i ddefnyddio pwerau deddfu presennol y Cynulliad i’r eithaf, ac i ymgyrchu o blaid canlyniad llwyddiannus i refferendwm ar bwerau deddfu llawn i Gymru.
Gofynnodd y Prif Weinidog a’r Dirprwy Brif Weinidog i Bwyllgor Sefydlu Confensiwn Cymru Gyfan roi cyngor ar sut y dylai Confensiwn Cymru Gyfan weithredu.
Cyfarfu’r Pwyllgor rhwng mis Rhagfyr 2007 a mis Mawrth 2008 a chytunwyd ar fersiwn ddrafft o’r Cylch Gorchwyl ar gyfer y Confensiwn i’w gynnig i’r Prif Weinidog a’r Dirprwy Brif Weinidog.
Mae’r Prif Weinidog a’r Dirprwy Brif Weinidog wedi derbyn argymhellion y Pwyllgor Sefydlu ac mae’r broses o’u rhoi ar waith yn mynd yn ei blaen yn awr er mwyn i’r Confensiwn ddechrau ar ei waith yn ystod haf 2008.
Defnyddiwch y dolennau canlynol i gael mwy o wybodaeth ynglŷn â sut gafodd y confensiwn ei sefydlu:
Pwyllgor Sefydlu Cymru’n Un Cwestiynau Cyffredin
Beth yw pwrpas Confensiwn Cymru Gyfan?
Bydd Confensiwn Cymru Gyfan yn esbonio i bobl Cymru y pwerau sydd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar hyn o bryd. Bydd hefyd yn asesu goblygiadau symud at gael pwerau deddfu llawn, gan ystyried y dadleuon o blaid ac yn erbyn symud i'r cyfeiriad hwn.
Nod Confensiwn Cymru Gyfan fydd rhoi cyfle i amryw o wahanol bobl ledled Cymru fynegi eu barn ar y pwnc hwn, fel y gellir rhoi ystyriaeth drwyadl i bwerau deddfu llawn gan ystyried barn a phryderon pobl. Yna, caiff y sylwadau hyn eu cynnwys yn rhan o adroddiad a gaiff ei gyflwyno i Lywodraeth Cynulliad Cymru yn 2010 fel y gallant wneud penderfyniad cytbwys a yw Cymru yn barod am refferendwm.
Y Ddadl
Mae'r ddadl ar bwerau'r Cynulliad yn berthnasol i bawb, gan fod gan y defnydd o bwerau'r Cynulliad y potensial i effeithio ar fywydau pawb mewn meysydd mor amrywiol ag iechyd, addysg, yr amgylchedd, yr economi, materion gwledig, diwylliant a chwaraeon - ymysg nifer o feysydd eraill.
Pwrpas y confensiwn yw i gael gymaint o bobl yng Nghymru â phosibl ddeall nod y Confensiwn a chymryd rhan ynddo, fel y gallwn gymryd rhan yn y ddadl fawr ar lywodraeth ddatganoledig a deddfu yng Nghymru.
Yr Enwau a Wynebau tu ôl i’r Confensiwn
Trwy ddefnyddio y dolennau canlynol gallwch cael wybodaeth am y bobl sy'n gweithio i wneud y Confensiwn yn llwyddiant.
Cadeirydd Confensiwn Cymru Gyfan
Aelodau'r Pwyllgor Gweithredol
Cyfarfodydd y Pwyllgor Gweithredol
Ysgrifenyddiaeth
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â gwaith Confensiwn Cymru Gyfan ac i gael y cyfle i ddweud eich barn a sicrhau bod eich llais yn gael ei clywed ynglŷn â gam nesaf Cymru ewch at gwefan Confensiwn Cymru Gyfan
Hefyd bydd cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus yn cael eu cynnal ledled Cymru flwyddyn nesaf i gasglu barn pobl. Am fwy o wybodaeth clicia fan hyn.
Gallwch hefyd cysylltu a nhw trwy ddefnyddio y manylion yma:
Confensiwn Cymru Gyfan
c/o Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Adeilad y Pierhead
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA
029 2089 8187
gwybodaeth.confensiwn@cymru.gsi.gov.uk
Dolennau
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Deddf Llywodraeth Cymru
Grŵp Facebook
Tudalen Confensiwn Cymru Gyfan ar wefan y cynulliad
Rhanddeiliaid
Confensiwn Cymru Gyfan
by Llywelyn





